SL(5)155 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018
Cefndir a diben
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yw'r dulliau a ddefnyddir gan Awdurdodau Lleol i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt dalu'r Dreth Gyngor.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Mae'r Rheoliadau yn uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad, a lefel y gostyngiad, o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgil newidiadau i'r system les a threth ehangach.
Gweithdrefn
Cadarnhaol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Craffu ar y rhinweddau
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn, sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad (Rheol Sefydlog 21.3(ii)).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau technegol a manwl iawn i is-ddeddfwriaeth Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae'r Pwyllgor yn nodi ac yn gwerthfawrogi bod y Memorandwm Esboniadol a'r Nodyn Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn yn rhoi crynodeb clir a defnyddiol iawn o'r newidiadau technegol a manwl a wneir.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Dim.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
29 Tachwedd 2017